Iechyd Meddwl a Hunanladdiad

1. Cyflwyniad

‍ ‍

Hunanladdiad yw un o'r materion iechyd meddwl mwyaf sensitif ac un o'r rhai a gaiff y sylw mwyaf eang yn y cyfryngau. Mae dylanwad grymus i'r gohebu ar agweddau'r cyhoedd, ar stigma ac ar ddiogelwch unigolion. Er bod y canllawiau hyn hefyd yn cyfeirio at ohebu am iechyd meddwl yn ehangach, mae angen gofal ychwanegol wrth ohebu am hunanladdiad oherwydd y risg o niwed a'r potensial i leihau niwed, ac felly dyna ffocws y canllawiau hyn.

‍ ‍

  • Pam mae hyn yn bwysig: Mae gohebu anghywir neu ysgytwol am hunanladdiad wedi'i gysylltu â risg uwch o ddynwared (yr “effaith Werther”). Mae astudiaethau'n dangos bod sylw'r cyfryngau i hunanladdiad enwogion yn gysylltiedig â chynnydd mesuradwy yn nifer yr hunanladdiadau dilynol (tua 13% yn yr wythnosau canlynol [1]). Ar yr un pryd, gall sylw cyfrifol gael effeithiau amddiffynnol (a elwir weithiau yn yr “effaith Papageno” [2]), gan annog ymddygiad ceisio cymorth a gwella dealltwriaeth.

  • Materion cyffredin yn y sylw a roddir: manylion gormodol am ddulliau, penawdau dramatig, “achosion” damcaniaethol, ac iaith stigmateiddiol fel “cyflawni hunanladdiad.”

  • Diben: Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo newyddiadurwyr i gynhyrchu gohebu cywir, sensitif ac adeiladol am iechyd meddwl a hunanladdiad.

‍ ‍

‍ ‍

2. Beth i'w Wneud a Beth i'w Osgoi (Cyfeirnod Cyflym)

‍ ‍

Gwnewch

‍ ‍

  • Defnyddiwch ymadroddion fel “bu farw drwy hunanladdiad” neu “cymerodd ei fywyd ei hun.”

  • Cynhwyswch wybodaeth bod hunanladdiad yn ataliadwy, a chyfeiriwch at wasanaethau cymorth (e.e. y Samariaid, Papyrus).

  • Rhowch gyd-destun ynghylch iechyd meddwl (achosion strwythurol, opsiynau triniaeth, straeon am adferiad).

  • Byddwch yn arbennig o ofalus gyda phenawdau a delweddau.

  • Cydnabyddwch yr effaith y gall gohebu ei chael ar gynulleidfaoedd, yn arbennig ar bobl ifanc.

  • Ewch at bobl yr effeithiwyd arnynt gan hunanladdiad, gan gynnwys y rhai sydd wedi colli anwyliaid, mewn modd sensitif, ac osgowch unrhyw holi sy'n awgrymu bai neu gyfrifoldeb

  • Adlewyrchwch yr ystod o brofiadau iechyd meddwl, gan gynnwys adferiad, rheoli a chymorth, ac nid argyfwng yn unig.

‍ ‍

Peidiwch

‍ ‍

  • Adrodd am ddulliau hunanladdiad yn fanwl.

  • Defnyddio termau ysgytwol fel “epidemig hunanladdiad” neu “cyflawni hunanladdiad”.

  • Dyfalu ynghylch “achosion” neu ei leihau i un ffactor.

  • Rhoi gwedd ramantus na gogoneddus ar hunanladdiad (yn arbennig mewn achosion yn ymwneud â phobl enwog).

  • Cyhoeddi nodiadau hunanladdiad, delweddau o leoliadau, na deunydd gweledol dramatig.

‍ ‍

‍ ‍

3. Egwyddorion Craidd

‍ ‍

  • Cywirdeb: Defnyddiwch ffeithiau clir, osgowch ddyfalu, ac adroddwch ystadegau'n gyfrifol.

  • Sensitifrwydd: Parchwch urddas y rhai yr effeithir arnynt, osgowch chwyddo cyffro, a lleihewch niwed.

  • Cyd-destun: Gosodwch faterion hunanladdiad ac iechyd meddwl mewn fframweithiau cymdeithasol, meddygol a pholisi ehangach, gan gynnwys profiadau bob dydd o iechyd meddwl ac adferiad.

  • Cynrychiolaeth: Cynhwyswch leisiau pobl â phrofiad byw pan fo'n briodol, gan sicrhau caniatâd a diogelwch.

  • Cyfrifoldeb: Darparwch adnoddau a chyfeiriadau at wasanaethau cymorth.

‍ ‍

‍ ‍

4. Canllawiau Manwl

‍ ‍

Iaith

‍ ‍

  • Mae'n well defnyddio “bu farw drwy hunanladdiad” yn hytrach na “cyflawni hunanladdiad” (sy'n awgrymu troseddoldeb).

  • Osgowch dermau fel “ymgais aflwyddiannus” neu “hunanladdiad llwyddiannus.” Defnyddiwch “ymgais i gymryd ei fywyd ei hun” neu “person sydd mewn perygl o hunanladdiad.”

  • Ymatalwch rhag mwyneiddiadau neu ymadroddion melodramatig fel “cri am help,” “safle eiconig,” neu “man cyffredin.”

  • Osgowch iaith ddifrïol neu stigmateiddiol fel “gwallgof,” “anwadal,” neu ddefnyddio cyflyrau iechyd meddwl yn llwybr byr i ddisgrifio ymddygiad neu gymeriad.

  • Osgowch ddiffinio unigolion yn ôl cyflyrau iechyd meddwl yn unig, neu fframio salwch meddwl fel nodwedd ddiffiniol.

‍ ‍

Fframio

‍ ‍

  • Gosodwch straeon am hunanladdiad mewn cyd-destun ehangach: tynnwch sylw at atal, at ofal iechyd meddwl, ac at adferiad.

  • Osgowch leihau hunanladdiad i un achos (e.e. “oherwydd straen arholiadau”); pwysleisiwch y cymhlethdod.

  • Canolbwyntiwch ar wytnwch ac ar ymdopi, nid ar anocheledd.

‍ ‍

Ffynonellau ac Arbenigwyr

‍ ‍

  • Ymgynghorwch â sefydliadau fel y Samariaid, Papyrus, a The Listening Place.

  • Defnyddiwch ddata Sefydliad Iechyd y Byd a'r GIG am ystadegau dibynadwy.

  • Lle bynnag y bo'n bosibl, cydweithiwch â arbenigwyr iechyd meddwl wrth ymdrin ag achosion cymhleth.

‍ ‍

Delweddau/Deunydd Gweledol

‍ ‍

  • Osgowch ddelweddau o'r dull, o'r lleoliad, nac o eiddo personol yr ymadawedig.

  • Defnyddiwch ddelweddau niwtral neu gefnogol (e.e. logos llinellau cymorth, delweddau o gymorth cymunedol).

  • Sicrhewch ganiatâd wrth gynnwys delweddau o'r teulu neu o oroeswyr.

  • Osgowch ddelweddau a gymerir yn uniongyrchol o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

‍ ‍

Astudiaeth Achos

‍ ‍

Arfer gwael: Pennawd tudalen flaen “Myfyriwr yn neidio i'w farwolaeth o bont yn y ddinas ar ôl ffrae gyda'i gariad” — mae hyn yn chwyddo cyffro ynghylch y dull, yn dyfalu'r achos, ac yn rhamantu'r stori.

‍ ‍

Arfer da: “Galwadau'n cynyddu am well cymorth iechyd meddwl mewn prifysgolion ar ôl marwolaeth myfyriwr” — mae hyn yn osgoi'r dull, yn canolbwyntio ar faterion strwythurol, ac yn cyfeirio at adnoddau.

‍ ‍

‍ ‍

5. Ystyriaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol

‍ ‍

  • Aelodau'r NUJ – gallant ffonio llinell gymorth foeseg yr NUJ: 0845 450 0864 neu anfon e-bost i ethics@nuj.org.uk

  • Cod y Golygyddion IPSO, Cymal 5 (Ymyrryd â galar neu sioc): mae'n rhaid i newyddiadurwyr ymdrin â hyn yn sensitif.

  • Cod Darlledu Ofcom: osgowch ddeunydd sy'n debygol o achosi niwed, ac arferwch ofal gyda grwpiau bregus.

  • Canllawiau Cyfryngau Sefydliad Iechyd y Byd: yn annog peidio â chwyddo cyffro, gorsymleiddio na rhamantu hunanladdiad.

  • Cod Safonau IMPRESS: peidiwch â gwneud cyfeiriad rhagfarnllyd na difrïol at anabledd, iechyd nac hunaniaeth (Cymal 4). Osgowch ddeunydd a allai achosi niwed heb gyfiawnhad.

‍ ‍

‍ ‍

6. Adnoddau a Chymorth

‍ ‍

  • Y Samariaid: 116 123 (llinell gymorth 24/7) – samaritans.org Elusen ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan sy'n darparu cymorth emosiynol cyfrinachol i unrhyw un mewn gofid neu sydd mewn perygl o hunanladdiad.

  • Papyrus (atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc): 0800 068 4141– papyrus-uk.org Gwasanaeth arbenigol sy'n cefnogi pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda meddyliau hunanladdol, a'r rhai sy'n poeni amdanynt.

  • The Listening Place:listeningplace.org.uk Gwasanaeth cymorth wyneb yn wyneb sy'n cynnig gwrando parhaus a chyfrinachol i bobl sy'n profi argyfwng hunanladdol.

  • Sefydliad Iechyd y Byd: Preventing Suicide: A Resource for Media Professionals: https://www.who.int/publications/i/item/9789240076846Arweiniad rhyngwladol i newyddiadurwyr ar ohebu cyfrifol am hunanladdiad, gan gynnwys argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth i leihau niwed a gwella dealltwriaeth y cyhoedd.

  • Mind:mind.org.uk Elusen iechyd meddwl flaenllaw sy'n darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl.

‍ ‍

‍ ‍

7. Ymgynghori a Chydnabyddiaethau

‍ ‍

Datblygwyd gyda mewnbwn gan newyddiadurwyr, arbenigwyr iechyd meddwl, grwpiau eirioli, a phobl â phrofiad byw.

‍ ‍

‍ ‍

8. Ynghylch y Canllawiau Hyn

‍ ‍

Bwriedir y canllawiau hyn fel cymorth ymarferol, ac nid ydynt yn cymryd lle codau rheoleiddio presennol.

‍ ‍

Croesawn fewnbwn ac adborth — anfonwch e-bost i info@pressjusticeproject.org

‍ ‍

‍ ‍

9. Gyda Diolch i…

‍ ‍

Cynhyrchwyd y canllawiau hyn gan y Press Justice Project mewn ymgynghoriad ag addysgwyr newyddiaduraeth ac ymarferwyr. Diolch yn fawr i'n panel o adolygwyr arbenigol.

‍ ‍