Argyfwng yr Hinsawdd a Natur

1. Cyflwyniad

‍ ‍

Mae argyfwng yr hinsawdd a natur (y cyfeirir ato weithiau fel yr argyfwng ecolegol) yn un o straeon diffiniol y ganrif hon, ac mae'n llunio iechyd, diogelwch, bywoliaeth, mudo a chyfiawnder ar draws y byd. Mae goblygiadau dwys i'r ffordd y caiff ei adrodd, o safbwynt dealltwriaeth y cyhoedd, penderfyniadau democrataidd ac atebolrwydd.

‍ ‍

Pam mae hyn yn bwysig:
Gall tan-adrodd, cydbwysedd ffug, neu fframio'r hinsawdd fel mater cul neu fel pwnc “amgylcheddol” yn unig guddio risgiau, arafu gweithredu ac atgyfnerthu camwybodaeth. Ar y llaw arall, mae gohebu trwyadl a chyd-destunol yn helpu pobl i ddeall beth sy'n digwydd, pwy sy'n gyfrifol, a pha ymatebion sy'n bosibl.

‍ ‍

Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn amgylchedd cyfryngol yr effeithir arno gan gylchoedd newyddion cystadleuol, toriadau i staff ystafelloedd newyddion, ac arweinwyr gwleidyddol sy'n bychanu neu'n gwadu'r argyfwng.

‍ ‍

Materion cyffredin yn y sylw a roddir:

‍ ‍

  • Trin chwalfa'r hinsawdd fel problem bell neu fel problem sy'n perthyn i'r dyfodol yn unig.

  • Rhoi'r un pwys ar gonsensws gwyddonol ac ar wadu ymylol.

  • Canolbwyntio ar ddewisiadau ffordd o fyw unigol gan roi'r sbardunau systemig o'r neilltu (y diwydiant tanwydd ffosil, polisi, cyllid).

  • Gorbwysleisio delweddau tywydd eithafol neu drychineb heb gyd-destun, heb atebion a heb leisiau'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt.

  • Cyflwyno materion cysylltiedig, fel costau byw neu brisiau tanwydd, heb gyfeirio at ran yr argyfwng hinsawdd.

‍ ‍

Diben: Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo pob newyddiadurwr, ar bob maes, i gynhyrchu gohebu cywir, cyd-destunol ac er budd y cyhoedd ar yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol.

‍ ‍

‍ ‍

2. Beth i'w Wneud a Beth i'w Osgoi

‍ ‍

Gwnewch

‍ ‍

  • Nodwch yn glir bod newid hinsawdd yn real, ei fod wedi'i achosi gan weithgarwch dynol, a'i fod wedi'i gefnogi gan dystiolaeth wyddonol lawn a chadarn.

  • Eglurwch y cysylltiadau rhwng digwyddiadau (e.e. tonnau gwres, llifogydd, tanau gwyllt) ac achosion dynol newid hinsawdd pan fo tystiolaeth yn cefnogi hynny – a dywedwch pan nad yw'n gwneud hynny.

  • Cynhwyswch rôl polisi, diwydiant, cyllid a rheoleiddio, ac nid ymddygiad unigol yn unig.

  • Ceisiwch sylwadau arbenigol gan wyddonwyr hinsawdd annibynnol a sefydliadau ymchwil ac arbenigol o fri.

  • Cynhwyswch yr effeithiau ar bobl ac ar ecosystemau, gan roi sylw i anghydraddoldeb a chyfiawnder.

  • Rhowch sylw beirniadol i ymatebion ac atebion – y costau, y manteision, y cyfyngiadau a'r cyfaddawdau.

‍ ‍

Peidiwch

‍ ‍

  • Cyflwyno gwyddoniaeth yr hinsawdd fel “dadl” rhwng dwy ochr gyfartal pan fo consensws cryf ynghylch ffaith newid hinsawdd, ei gyflymder a chyfraniad pobl ato.

  • Rhoi llwyfan i gamwybodaeth neu i wadu heb eu herio. Os cânt eu cynnwys, rhowch gyd-destun clir a gwiriwch y ffeithiau.

  • Trin pob digwyddiad tywydd eithafol fel rhywbeth ynysig, “od” neu fel “gweithred Duw” heb archwilio'r tueddiadau sylfaenol.

  • Canolbwyntio ar dranc yn unig heb unrhyw drafodaeth am allu pobl i weithredu, am ddewisiadau nac am lwybrau at newid. Yn yr un modd, byddwch yn ofalus rhag gorddweud ynghylch cynnydd.

  • Defnyddio ymadroddion rhy amwys (“mater hinsawdd,” “agenda werdd”) pan fo iaith fanylach yn bosibl (e.e. “cael gwared yn raddol ar danwyddau ffosil,” “inswleiddio cartrefi”).

  • Disgrifio digwyddiadau tywydd eithafol a achosir gan yr hinsawdd fel “trychinebau naturiol” heb egluro rôl newid hinsawdd. Pan fo tystiolaeth ar gael, eglurwch sut mae newid hinsawdd o waith dynol yn cynyddu eu tebygolrwydd neu eu difrifoldeb.

‍ ‍

‍ ‍

3. Egwyddorion Craidd

‍ ‍

Cywirdeb:
Adlewyrchwch y consensws gwyddonol yn glir. Osgowch gyfateb ffug rhwng tystiolaeth lawn a honiadau heb sail.

‍ ‍

Cyd-destun:
Cysylltwch dywydd eithafol, colli bioamrywiaeth, llygredd ac effeithiau eraill â'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol ehangach, ac â'r dimensiynau polisi, economaidd a chyfiawnder.

‍ ‍

Atebolrwydd:
Holwch ynghylch cyfrifoldeb – o lywodraethau a chorfforaethau i sefydliadau ariannol – yn hytrach na thrin yr effeithiau fel rhywbeth “naturiol” neu anochel. Dylai atebolrwydd hefyd ymestyn i rwystro'r camau a gymerir i liniaru newid hinsawdd.

‍ ‍

Cyfiawnder:
Tynnwch sylw at y modd y caiff effeithiau a chyfrifoldebau eu dosbarthu'n anghyfartal, a chynhwyswch leisiau o'r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf, yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang.

‍ ‍

Adeiladolrwydd (heb glodfori):
Archwiliwch ymatebion ac ymdrechion addasu gyda thrylwyredd newyddiadurol – beth sy'n gweithio, beth nad yw'n gweithio, pwy sy'n elwa, pwy sy'n talu.

‍ ‍

‍ ‍

4. Canllawiau Manwl

‍ ‍

Iaith

‍ ‍

  • Defnyddiwch dermau cywir fel “newid hinsawdd,” “cynhesu byd-eang,” “chwalfa hinsawdd,” “colli bioamrywiaeth/natur,” “argyfwng ecolegol,” “tanwyddau ffosil” pan fo'n briodol. Gall gohebwyr hefyd ystyried ei bod yn briodol defnyddio termau penodol a fabwysiadwyd gan y gymuned wyddonol, fel “argyfwng hinsawdd”.

  • Osgowch iaith sy'n awgrymu ansicrwydd pan fo consensws (e.e. “mae rhai gwyddonwyr yn dweud…”) – nodwch beth yw casgliad y prif gyrff gwyddonol.

  • Byddwch yn ofalus gyda throsiadau sy'n bychanu neu'n gorsymleiddio (e.e. mae “twymyn y Ddaear” yn dderbyniol yn rhai cyd-destunau esboniadol; osgowch fframio sy'n awgrymu bod y sefyllfa'n anobeithiol neu'n ddibwys).

  • Gwahaniaethwch rhwng lliniaru (lleihau allyriadau), addasu (ymgyfaddasu i effeithiau), a colled a difrod (effeithiau newid hinsawdd sydd wedi digwydd eisoes neu na ellir eu hatal, fel y dinistr a achosir gan drychinebau hinsawdd).

  • Defnyddir y termau hyn yn eang mewn polisi hinsawdd, ond gallant fod yn dechnegol. Dylai newyddiadurwyr ystyried defnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn a straeon dynol i helpu cynulleidfaoedd i ddeall eu hystyr yn ymarferol.

‍ ‍

Fframio

‍ ‍

  • Gosodwch straeon yng nghyd-destun tueddiadau hirdymor a thystiolaeth wyddonol (e.e. tymheredd cyfartalog yn codi, cwymp cerhyntau'r cefnfor, patrymau glawiad yn newid, dirywiad rhywogaethau), a'u heffaith ar fywyd ar y ddaear.

  • Wrth ohebu am dywydd eithafol, eglurwch:

    • Beth a wyddys am rôl newid hinsawdd yn cynyddu amlder neu ddwysedd.

    • Sut mae cynllunio, polisi, anghydraddoldeb a phenderfyniadau hanesyddol yn llunio bregusrwydd ac amlygrwydd.

  • Osgowch bortreadu gweithredu ar yr hinsawdd fel cyfrifoldeb unigolion yn unig; cynhwyswch sbardunau a dulliau strwythurol (systemau ynni, trafnidiaeth, amaethyddiaeth, defnydd tir, cyllid, rheoleiddio).

  • Tynnwch sylw at gyd-fanteision gweithredu ar yr hinsawdd pan fo'n berthnasol (e.e. aer glanach, cartrefi cynhesach, iechyd gwell), gan fod yn onest ynghylch cyfaddawdau a gwrthdaro.

  • Cynhwyswch leisiau o'r cymunedau sydd ar reng flaen yr effeithiau hinsawdd ac ecolegol, gan osgoi sylw echdynnol neu sylw sy'n atgyfnerthu ystrydebau.

‍ ‍

Pan fo'n berthnasol, eglurwch pryd mae digwyddiadau tywydd eithafol yn drychinebau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, a rhowch gyd-destun gwyddonol ynghylch sut mae newid hinsawdd yn dylanwadu ar eu hamlder neu eu dwysedd.

‍ ‍

Ffynonellau ac Arbenigwyr

‍ ‍

  • Rhowch flaenoriaeth i gyrff gwyddonol annibynnol, prifysgolion a sefydliadau ymchwil am wybodaeth ffeithiol a chyd-destun.

  • Byddwch yn dryloyw ynghylch gwrthdaro buddiannau posibl (e.e. ffynonellau a ariennir gan fuddiannau tanwydd ffosil neu gan grwpiau lobïo, a'u rhan yn lledaenu camwybodaeth fwriadol).

  • Wrth ddyfynnu actorion busnes neu wleidyddol, holwch eu honiadau yn erbyn tystiolaeth (e.e. ynghylch lleihau allyriadau, strategaethau “sero net,” neu wrthbwyso).

  • Defnyddiwch gyfryngwyr y gellir ymddiried ynddynt (e.e. cyhoeddiadau newyddiaduraeth hinsawdd arbenigol, gwefannau esboniadol) fel man cychwyn, ond gwiriwch y ffynonellau gwreiddiol bob amser lle bynnag y bo'n bosibl.  Holwch neu nodwch honiadau sydd heb ffynhonnell.

  • Cynhaliwch gywirdeb a safonau wrth ohebu am grwpiau ymgyrchu.

‍ ‍

Delweddau / Deunydd Gweledol

‍ ‍

  • Defnyddiwch ddelweddau sy'n cynrychioli effeithiau ac ymatebion yn gywir (e.e. cymunedau'n addasu, ynni adnewyddadwy, adfer natur) yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar eirth gwynion,  simneiau mwg neu, yn arbennig, ddelweddau sy'n bychanu codiadau yn y tymheredd drwy eu cysylltu'n gamarweiniol â thywydd dymunol.

  • Rhowch flaenoriaeth i gyd-destun ochr yn ochr â delweddau trychineb, gan y gall delweddau o'r fath lorio cynulleidfaoedd a chyfrannu at ffatalaeth os nad ydynt yng nghwmni esboniad ac ymdeimlad o allu i weithredu.

  • Sicrhewch ganiatâd ac urddas wrth ddarlunio'r pobl yr effeithiwyd arnynt, yn arbennig yn ne'r byd, ac osgowch atgyfnerthu ystrydebau o ddiymadferthedd nac o “achubwyr Gorllewinol”.

‍ ‍

Astudiaeth Achos

‍ ‍

  • Arfer gwael:
    ‍ ‍
    “Stormydd od yn taro'r rhanbarth wrth i'r ffrae hinsawdd barhau” – mae hyn yn trin digwyddiadau fel rhywbeth od, yn awgrymu “ffrae” barhaus yn lle corff cadarn o dystiolaeth, ac yn cynnwys sgorio pwyntiau gwleidyddol heb gyd-destun.

  • Arfer da:
    ‍ ‍
    “Ton wres bum gwaith yn fwy tebygol oherwydd newid hinsawdd, medd gwyddonwyr – galwadau am well tai a gwell diogelwch i weithwyr” – mae hyn yn egluro'r cysylltiad rhwng y digwyddiad a newid hinsawdd, yn cyfeirio at ddadansoddiad gwyddonol, ac yn cysylltu â materion polisi a chyfiawnder.

‍ ‍

‍ ‍

5. Ystyriaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol

‍ ‍

  • Cywirdeb a didueddrwydd: Mae'r rhan fwyaf o gyrff cwynion y cyfryngau yn cynnwys safonau ar gywirdeb, ac yn ychwanegol at hynny mae'n ofynnol i'r cyfryngau darlledu fod yn briodol ddiduedd. Nid yw hyn yn golygu bod rhaid rhoi'r un pwys i honiadau heb sail; gellir cyflawni didueddrwydd drwy adlewyrchu pwysau'r dystiolaeth.

  • Cynnwys camarweiniol: Byddwch yn ofalus ynghylch graffigwaith, penawdau neu fframio a allai gamgynrychioli risgiau, amserlenni neu raddfa'r effeithiau.

  • Cynnwys masnachol: Mae rhai cyrff rheoleiddio yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddiadau wahaniaethu'n glir rhwng newyddiaduraeth a hysbysebu neu gynnwys a noddir, yn arbennig lle mae diwydiannau tanwydd ffosil neu ddiwydiannau allyriadau uchel yn noddi negeseuon “gwyrdd”.

  • Iaith casineb a gwahaniaethu: Osgowch ddeunydd sy'n beio neu'n targedu cymunedau penodol (e.e. mudwyr, gwledydd penodol) mewn ffyrdd senoffobig neu hiliol.

‍ ‍

(Cyfeiriwch at y Codau Safonau perthnasol, y codau darlledu, a'r safonau hysbysebu am rwymedigaethau penodol.)

‍ ‍

‍ ‍

6. Adnoddau a Chymorth

‍ ‍

  • Covering Climate Nowcoveringclimatenow.org Cydweithrediad newyddiaduraeth byd-eang sy'n cynorthwyo ystafelloedd newyddion i wella eu gohebu ar yr hinsawdd, ac sy'n darparu arweiniad, ymchwil ac adnoddau golygyddol.

‍ ‍

  • IPCC (y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd)https://www.ipcc.ch Yr awdurdod pennaf yn y byd ar wyddoniaeth yr hinsawdd, sy'n cynhyrchu asesiadau cynhwysfawr a ddefnyddir gan lywodraethau a newyddiadurwyr ledled y byd.

  • Gwyddoniaeth Hinsawdd y Swyddfa Dywyddhttps://www.metoffice.gov.uk/research/climate Ymchwil i wyddoniaeth yr hinsawdd yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys dadansoddi tywydd eithafol a phriodoli hinsawdd.

  • Carbon Briefhttps://www.carbonbrief.org Sefydliad newyddiaduraeth hinsawdd arbenigol sy'n darparu gohebu manwl, dadansoddi data ac esboniadau ar wyddoniaeth a pholisi'r hinsawdd.

  • Climate Centralhttps://www.climatecentral.org Sefydliad gwyddoniaeth a chyfathrebu annibynnol sy'n cynhyrchu data, graffigwaith a dadansoddiadau priodoli hinsawdd hygyrch ar gyfer newyddiadurwyr.

  • Sefydliad Meteorolegol y Byd (WMO)https://public.wmo.int Awdurdod rhyngwladol ar dywydd, hinsawdd a dŵr, sy'n darparu data gwyddonol a gohebu byd-eang ar yr hinsawdd.

  • Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP)https://www.unep.org Yn darparu ymchwil, asesiadau a dadansoddi polisi ar faterion amgylcheddol byd-eang, gan gynnwys newid hinsawdd a bioamrywiaeth.

‍ ‍

Anogir newyddiadurwyr i ddibynnu ar wyddoniaeth a adolygwyd gan gymheiriaid ac ar gyrff gwyddonol cydnabyddedig wrth ohebu ar faterion hinsawdd ac amgylcheddol, ac i wahaniaethu'n glir rhwng gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a barn neu eiriolaeth.

‍ ‍

‍ ‍

7. Ymgynghori a Chydnabyddiaethau

‍ ‍

Datblygwyd gyda mewnbwn gan newyddiadurwyr, arbenigwyr hinsawdd ac amgylcheddol, sefydliadau cymdeithas sifil, a chymunedau yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol.

‍ ‍

‍ ‍

8. Ynghylch y Canllawiau Hyn

‍ ‍

Cynhyrchwyd gan The Press Justice Project mewn ymgynghoriad â chymdeithas sifil, addysgwyr newyddiaduraeth ac ymarferwyr. Bwriedir y canllawiau hyn fel cymorth ymarferol, ac nid ydynt yn cymryd lle codau rheoleiddio presennol.

‍ ‍

Croesawn fewnbwn ac adborth — anfonwch e-bost i info@pressjusticeproject.org

‍ ‍

9. Gyda Diolch i…

‍ ‍

Cynhyrchwyd gan The Press Justice Project mewn ymgynghoriad â chymdeithas sifil, addysgwyr newyddiaduraeth ac ymarferwyr.

‍ ‍