Cam-drin Domestig a Thrais ar Sail Rhywedd

‍ ‍1. Cyflwyniad

‍ Mae cam-drin domestig (CD) a thrais ar sail rhywedd (TSR) yn achosion eang o dorri hawliau dynol, ac nid yn faterion “preifat” nac yn anghydfodau mewn perthynas.

‍ Profodd 1 o bob 5 oedolyn 16+ (20%) gam-drin domestig yn y flwyddyn ddiwethaf. [1] Mae hefyd yn un o brif achosion llofruddio menywod: yn y Deyrnas Unedig, caiff tua hanner y menywod sy'n cael eu llofruddio eu lladd gan bartner neu gyn-bartner[2]

Gall gohebu yn y cyfryngau herio mythau niweidiol, cefnogi goroeswyr a hybu atebolrwydd – neu gall atgyfnerthu stigma, beio dioddefwyr ac ystrydebau peryglus.

‍ ‍

Pam mae hyn yn bwysig: Mae sylw sy'n esgusodi neu'n lleihau cam-drin, sy'n ei fframio fel “trosedd angerdd,” neu sy'n canolbwyntio ar yr hyn a wnaeth neu na wnaeth y dioddefwr neu'r goroeswr, yn peryglu cyfrannu at ddiwylliant lle caiff cam-drin ei normaleiddio a lle collir arwyddion rhybudd. Gall gohebu cyfrifol gynyddu dealltwriaeth, annog pobl i geisio cymorth, a llywio ymdrechion i atal niwed pellach.

‍ ‍

Materion cyffredin yn y sylw a roddir:

‍ ‍

  • Trin cam-drin angheuol neu ddifrifol fel digwyddiad ynysig neu fel “achos trist unigol.”

  • Awgrymu bod y goroeswr/dioddefwr “heb adael” neu wedi “cythruddo” y cam-drin.

  • Tynnu sylw at gymeriad y cyflawnwr (“un o hoelion wyth y gymuned,” “tad da”) yn hytrach nag at ei weithredoedd.

  • Defnyddio iaith fwyneiddiol (“ffrae,” “triongl cariad,” “cenfigen wyllt”, “cariad a wrthodwyd”) sy'n cuddio patrymau o reolaeth a thrais.

  • Lledaenu mythau ynghylch cam-drin domestig (fel y syniad ei fod bob amser yn cynnwys trais corfforol) a beio dioddefwyr (“pam na wnaethoch chi adael” / “a wnaethoch chi rywbeth i'w gythruddo”)

  • Mae'r defnydd o ‘dioddefwr’ neu ‘goroeswr’ yn dibynnu ar y cyd-destun a'r bwriad, a gall gario goblygiadau gwahanol i hunaniaeth ac adferiad. Lle bynnag y bo'n bosibl, dilynwch yr iaith y mae'r unigolyn yn ei defnyddio amdano'i hun.

  • Tybio bod cam-drin a thrais domestig yn effeithio ar fenywod yn unig. Menywod yw'r mwyafrif o oroeswyr, ond mae'r achosion a adroddir yn erbyn dynion yn cynyddu.

‍ ‍

Diben: Nod y canllawiau hyn yw helpu newyddiadurwyr i ohebu am gam-drin domestig a thrais ar sail rhywedd yn gywir, yn ddiogel, a chyda pharch at oroeswyr a'r rhai sydd wedi colli anwyliaid drwy gam-drin.

‍ ‍

‍ ‍

2. Beth i'w Wneud a Beth i'w Osgoi (Cyfeirnod Cyflym)

‍ ‍

Gwnewch

‍ ‍

  • Disgrifiwch gam-drin domestig fel patrwm o ymddygiad rheolgar, gorfodol, bygythiol neu dreisgar, yn hytrach nag fel “anghydfod domestig.”

  • Defnyddiwch iaith glir, ffeithiol (e.e. “cafodd ei lladd gan ei phartner” yn hytrach na “trodd ffrae cariadon yn angheuol”).

  • Rhowch weithredoedd a dewisiadau'r cyflawnwr yn ganolog, a pheidiwch â mentro eu cyfiawnhau drwy bwysleisio ymddygiad, ymddangosiad na ffordd o fyw y dioddefwr/goroeswr.

  • Cynhwyswch gyd-destun perthnasol, fel adroddiadau blaenorol i'r heddlu, patrymau o stelcian, neu dorri gorchmynion (lle cadarnhawyd hynny a lle mae'n ddiogel yn gyfreithiol).

  • Cyfeiriwch at wasanaethau cymorth arbenigol (e.e. llinellau cymorth cenedlaethol ar gam-drin domestig, llochesi lleol, sefydliadau sy'n benodol i ddiwylliant neu ffydd).

  • Ceisiwch fewnbwn gan sefydliadau arbenigol ac eiriolwyr goroeswyr wrth ohebu am dueddiadau, polisi a materion systemig.
    ‍ ‍
    ‍ ‍

‍ ‍

Peidiwch

‍ ‍

  • Defnyddio iaith sy'n beio neu'n cywilyddio'r dioddefwr/goroeswr (“arhoson nhw,” “cafodd hi berthnasoedd eraill,” “roedd hi'n yfed” ac ati).

  • Fframio cam-drin fel gwrthdaro cydfuddiol neu fel “problemau perthynas”. Gall y term “perthynas gamdriniol” roi'r bai ar oroeswyr/dioddefwyr. Y cyflawnwr sy'n cyflawni'r cam-drin bob amser.

  • Rhamantu trais na chwyddo cyffro amdano gydag ymadroddion fel “trosedd angerdd,” “cenfigen wyllt,” “erchylltra triongl cariad,” neu “ffrae a drodd yn angheuol.”

  • Cyhoeddi manylion adnabod goroeswyr, plant neu leoliadau llochesi heb fod yn sicr ei bod yn gyfreithlon gwneud hynny, a heb geisio eu caniatâd gwybodus os gallai'r hyn a adroddwch eu peryglu.

  • Peidiwch â defnyddio crefydd, ethnigrwydd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, hanes iechyd meddwl, cenedligrwydd, statws mewnfudo na chredoau personol fel disgrifyddion adnabod oni bai eu bod yn uniongyrchol berthnasol ac yn angenrheidiol i ddeall y stori.

  • Gorbwysleisio nodweddion cadarnhaol y cyflawnwr (swydd, safle yn y gymuned) mewn ffyrdd sy'n lleihau ei gyfrifoldeb.

  • Defnyddio delweddau sy'n bychanu cam-drin neu'n annog beio dioddefwyr, neu sy'n gweithredu fel abwyd clicio. Mae hyn yn cynnwys delweddau stoc o ddadleuon, defnydd darluniadol o anafiadau, neu ddelweddau o'r cyfryngau cymdeithasol o ddioddefwyr/goroeswyr wedi'u tynnu o'u cyd-destun neu wedi'u dewis i awgrymu barn.

‍ ‍

‍ ‍

3. Egwyddorion Craidd

‍ ‍

Cywirdeb: Disgrifiwch gam-drin yn glir ac yn ffeithiol. Osgowch fwyneiddiadau sy'n bychanu trais neu reolaeth.

‍ ‍

Canolbwyntio ar y goroeswr: Parchwch ddiogelwch, urddas ac ymreolaeth goroeswyr a'r teuluoedd yr effeithir arnynt. Peidiwch â chyhoeddi manylion a allai eu hadnabod na'u peryglu. Os yw'n briodol ac yn gyfreithlon eu hadnabod, dylech ystyried eu dymuniadau cyn cyhoeddi manylion personol am y cam-drin a ddioddefwyd ganddynt. Mae profiad byw goroeswyr yn arbenigedd gwerthfawr, a dylid eu trin fel cyfranwyr/arbenigwyr, ac nid fel pynciau nac astudiaethau achos yn unig.

‍ ‍

Cyd-destun: Wrth ohebu am gefndir achos, gall fod yn briodol egluro bod cam-drin yn aml yn batrwm o ymddygiad rheolgar a gorfodol, ac nid yn ddigwyddiad unigol fel rheol. Gall fod yn berthnasol cyfeirio at ffactorau strwythurol (anghydraddoldeb rhywedd, dibyniaeth economaidd, statws mudo, hiliaeth, anabledd, ac ati).

‍ ‍

Atebolrwydd: Canolbwyntiwch ar weithredoedd a chyfrifoldeb y cyflawnwr. Oni bai eich bod yn dyfynnu honiadau pobl eraill yn benodol (fel cyfreithwyr yr amddiffyniad), dylech osgoi ymadroddion a allai esgusodi neu gyfiawnhau cam-drin (fel “ffrwydrodd,” “collodd reolaeth,” “cafodd ei yrru i wneud hynny”).

‍ ‍

Cyfrifoldeb: Rhowch gyfeiriadau at wasanaethau cymorth arbenigol a llinellau cymorth. Osgowch ddeunydd a allai atal pobl rhag ceisio cymorth.

‍ ‍

‍ ‍

4. Canllawiau Manwl

‍ ‍

Iaith

‍ ‍

  • Defnyddiwch dermau clir fel “cam-drin domestig,” “rheolaeth orfodol,” “trais rhywiol,” “stelcian” pan fo'n briodol.

  • Osgowch y term “trais domestig” fel pe bai'n gyfystyr â cham-drin domestig. Gall hyn awgrymu mai trais corfforol yn unig sy'n cyfrif fel cam-drin, ac mae “digwyddiad domestig” yn tanbrisio difrifoldeb y drosedd. Rheolaeth orfodol a cham-drin emosiynol yw rhai o'r ffurfiau mwyaf cyffredin – a mwyaf difrifol – ar gam-drin.

  • Osgowch fwyneiddiadau fel “problemau priodasol,” “ffrae cariadon,” “perthynas stormus,” “ffrae,” neu “ddrama ddomestig.”

  • Peidiwch â defnyddio iaith sy'n awgrymu cydgyfranogiad neu ddewis mewn dioddefaint (e.e. “roedd hi'n gysylltiedig â'r person anghywir,” “gwrthodon nhw adael”).

  • Er y gall fod yn briodol adrodd bod y rhan fwyaf o gam-drin domestig yn cael ei gyflawni gan ddynion yn erbyn menywod, cofiwch fod cam-drin yn digwydd ymhob rhywedd ac ymhob math o berthynas.

  • Defnyddiwch “goroeswr” wrth gyfeirio at rywun sydd wedi profi cam-drin domestig yn y gorffennol, gan ei bod yn fwy tebygol o gael effaith gadarnhaol ar eu hunanganfyddiad ac ar y ffordd y maent yn fframio eu profiad. Defnyddir “dioddefwr” fel rheol yng nghyd-destun menyw sydd wedi cael ei lladd.

‍ ‍

Fframio

‍ ‍

  • Dangoswch y patrwm, nid y digwyddiad yn unig. Lle cadarnhawyd hynny, cynhwyswch wybodaeth am fygythiadau blaenorol, ymddygiad rheolgar, stelcian, neu gysylltiad â gwasanaethau (yn ddarostyngedig i ystyriaethau cyfreithiol a diogelwch).

  • Osgowch awgrymu bod digwyddiadau penodol wedi “achosi” y cam-drin (e.e. “ar ôl iddynt ddod â'r berthynas i ben,” “pan ddywedodd hi wrtho ei bod yn feichiog”). Gall digwyddiadau sbarduno cam-drin ar adegau, ond mae cyflawnwyr yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain.

  • Osgowch fframio pêl-droed nac alcohol fel achosion cam-drin domestig; er y gallant ddwysáu ymddygiadau sy'n bodoli eisoes, mae cam-drin yn digwydd drwy'r flwyddyn ac mae'n deillio o ddewisiadau a phatrymau rheolaeth y cyflawnwr, a dyna ddylai fod y ffocws.

  • Lle bo'n berthnasol, cydnabyddwch fod cyflawnwyr yn aml yn parhau i gam-drin ar ôl gwahanu.

  • Mae cyflawnwyr yn defnyddio technoleg yn gynyddol i gam-drin, ond dylai'r gohebu osgoi unrhyw awgrym mai argaeledd technoleg sy'n gyfrifol. Dewis y cyflawnwr yw cyflawni cam-drin bob amser

  • Tynnwch sylw at faterion systemig fel bylchau yn y systemau plismona, tai, mewnfudo neu gyfiawnder pan fo'n berthnasol, yn hytrach na thrin pob achos fel trasiedi ynysig.

  • Cydnabyddwch groestoriadedd – sut mae hiliaeth, homoffobia, trawsffobia, gwahaniaethu ar sail anabledd, statws mewnfudo, tlodi a ffactorau eraill yn llunio profiadau pobl a'u mynediad at ddiogelwch.

  • Cynhwyswch wybodaeth am arwyddion rhybudd a llwybrau cymorth lle bynnag y bo'n bosibl. Mae hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am gam-drin, yn helpu darllenwyr i adnabod cam-drin, ac yn cyfeirio goroeswyr at gymorth.

  • Mae penawdau a fframio yn bwysig – osgowch abwyd clicio, chwyddo cyffro neu fframio ar ffurf clecs sy'n bychanu profiadau goroeswyr neu'n symud y ffocws oddi ar y ffeithiau. Osgowch fanylion graffig diangen neu ddelweddau o safle'r drosedd a allai ail-drawmateiddio goroeswyr neu eu teuluoedd.

‍ ‍

Ffynonellau ac Arbenigwyr

‍ ‍

  • Ymgynghorwch â sefydliadau arbenigol ar gam-drin domestig ac ar Drais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG) (e.e. llochesi, llinellau cymorth, grwpiau eirioli*) am sylwadau ar dueddiadau a pholisi, ac am ragor o arweiniad ar yr arferion gohebu gorau. (*gweler Adran 6 – Adnoddau).

  • Cofiwch y gall ystadegau, hyd yn oed pan fyddant yn ddibynadwy,  gael eu defnyddio'n ddetholus: eich nod ddylai fod dewis y rhai sy'n gywir ac sy'n rhoi darlun cyffredinol teg.  

  • Byddwch yn ofalus rhag dibynnu'n llwyr ar gymdogion, cydnabod neu'r cyfryngau cymdeithasol fel ffynonellau – gall eu gwybodaeth fod yn gyfyngedig a gallant, yn anfwriadol, ledaenu mythau.

  • Wrth gyfweld goroeswyr:

    • Sicrhewch fod ganddynt fynediad at gymorth annibynnol, eu bod yn deall y risgiau posibl o siarad yn gyhoeddus, ac y gallant wrthod cael eu cyfweld.

    • Osgowch bwyso ar unrhyw un i rannu manylion graffig na thrawmatig, nac i gytuno i gael eu hadnabod yn gyhoeddus

    • Byddwch yn glir ynghylch sut y bydd eich sefydliad yn defnyddio eu geiriau a'u delweddau, a beth yw telerau'r cyhoeddi.

    • Gall fod gan rai sefydliadau arbenigol bolisïau cyfryngau ar waith i gefnogi llesiant a diogelu, fel cymeradwyo cwestiynau ymlaen llaw, caniatâd i recordio, a darllen dyfyniadau'n ôl.

    • Sicrhewch fod y goroeswr yn teimlo'n ddiogel ac mewn rheolaeth ar y broses, gan adael iddynt osod y cyflymder a dewis beth i'w rannu. Defnyddiwch iaith anfeirniadol a gwnewch yn glir y gallant roi'r gorau i ateb neu gymryd hoe ar unrhyw bwynt.

‍ ‍

Delweddau / Deunydd Gweledol

‍ ‍

  • Peidiwch byth â dangos union leoliad llochesi na thai diogel.

  • Osgowch ddelweddau sy'n rhywioli, yn bychanu neu'n ystrydebu goroeswyr (e.e. delweddau ystumiedig o “fenyw drist yn y gornel” a ddefnyddir dro ar ôl tro).

  • Lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddiwch ddelweddau niwtral neu ddelweddau sy'n canolbwyntio ar y mater, fel logos llinellau cymorth, baneri ymgyrchu, neu ddelweddau symbolaidd nad ydynt yn adnabod unigolion.

  • Defnyddiwch ddelweddau o oroeswyr neu o deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid dim ond gyda chaniatâd gwybodus, a pheidiwch ag ailddefnyddio delweddau mewn straeon amherthnasol.

‍ ‍

Astudiaeth Achos

‍ ‍

  • Arfer gwael: “Mam i ddau wedi'i lladd mewn ‘ffrae’ gyda chariad cenfigennus” – mae'r pennawd yn canolbwyntio ar genfigen ac ar un ddadl unigol, yn defnyddio iaith sy'n bychanu, ac nid yw'n egluro bod hyn yn rhan o batrwm o gam-drin.

  • Arfer da: “Galwadau am well diogelwch i oroeswyr cam-drin ar ôl i fenyw gael ei lladd gan gyn-bartner” – mae'r pennawd yn rhoi gweithredoedd y cyflawnwr yn ganolog, yn cysylltu'r achos â methiannau systemig, ac yn cynnwys cyfeiriadau at gymorth.

‍ ‍

‍ ‍

5. Ystyriaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol

‍ ‍

  • Aelodau'r NUJ – gallant ffonio llinell gymorth foeseg yr NUJ: 0845 450 0864 neu anfon e-bost i ethics@nuj.org.uk

  • Ymyrryd â galar neu sioc: Mae Codau'r Golygyddion a'r codau darlledu yn gofyn am ymdriniaeth arbennig o sensitif wrth ymwneud â theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid ac â goroeswyr. E.E. CODAU'R NUJ: https://www.nuj.org.uk/about-us/rules-and-guidance/code-of-conduct.html

  • Preifatrwydd ac adnabod: Byddwch yn ofalus rhag adnabod goroeswyr na phlant lle mae cyfyngiadau cyfreithiol, gorchmynion llys neu achosion troseddol ar y gweill, neu heb ganiatâd y goroeswr.

  • Cyfiawnder agored yn erbyn diogelwch: Lle mae rheolau gohebu llys yn berthnasol, cydbwyswch egwyddor cyfiawnder agored â'r angen i leihau niwed – yn arbennig lle gallai manylion sydd ar gael i'r cyhoedd ei gwneud yn hawsach i gam-drinwyr ddod o hyd i oroeswyr.

  • Gwahaniaethu ac iaith casineb: Osgowch ddeunydd sy'n atgyfnerthu ystrydebau ynghylch hil, crefydd, statws mewnfudo, anabledd, rhywioldeb neu hunaniaeth rhywedd.

  • Tryloywder: Os yw goroeswr yn adnabyddadwy, sicrhewch eich bod yn onest o'r cychwyn ynghylch pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei chael i gadarnhau'r hyn y mae'r goroeswr yn ei ddatgelu.

‍ ‍

‍ ‍

6. Adnoddau a Chymorth

‍ ‍

  • Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig – 0808 2000 247 | nationaldahelpline.org.uk Gwasanaeth rhadffön 24 awr a redir gan Refuge, sy'n darparu cymorth a gwybodaeth gyfrinachol i fenywod sy'n profi cam-drin domestig.

  • Respect Phoneline – respectphoneline.org.uk Llinell gymorth ddienw i bobl sy'n poeni am eu hymddygiad camdriniol eu hunain ac sy'n chwilio am gymorth i roi'r gorau i gam-drin.

‍ ‍

Gwasanaethau Cymorth Arbenigol

‍ ‍

  • Women’s Aidwomensaid.org.uk Ffederasiwn cyfeiriedig ar lawr gwlad sy'n gweithio i ddarparu gwasanaethau sy'n achub bywydau ac i ymgyrchu am ddiogelwch i fenywod a phlant.

  • Men’s Advice Linemensadviceline.org.uk Llinell gymorth gyfrinachol sy'n cefnogi dynion yr effeithiwyd arnynt gan gam-drin domestig, ac sy'n cynnig cyngor i ddynion ac i'r rhai sy'n eu cefnogi.

  • Tech Safetyrefugetechsafety.org Arweiniad ac offer i helpu goroeswyr i gadw'n ddiogel rhag cam-drin a hwylusir gan dechnoleg.

  • Refugerefuge.org.uk Y darparwr mwyaf o wasanaethau cam-drin domestig arbenigol yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys llety brys a thîm diogelwch technoleg pwrpasol.

  • Imkaanimkaan.org.uk Yr unig sefydliad ymbarél ffeministaidd ail-haen yn y Deyrnas Unedig sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched Du ac o gefndiroedd lleiafrifol.

  • Galopgalop.org.uk Elusen wrth-gam-drin LHDT+ sy'n darparu cymorth i aelodau'r gymuned sy'n profi cam-drin domestig, trosedd casineb neu drais rhywiol.

  • Stay Safe Eaststaysafe-east.org.uk Sefydliad a arweinir gan ddefnyddwyr sy'n darparu eiriolaeth a chymorth i oroeswyr anabl cam-drin domestig, trosedd casineb ac aflonyddu.

  • Solace Women’s Aidsolacewomensaid.org Elusen o Lundain sy'n cynnig ystod gyfannol o wasanaethau, gan gynnwys lloches a chymorth therapiwtig, i oroeswyr trais.

‍ ‍

Dylai newyddiadurwyr, lle bynnag y bo'n bosibl, gyfeirio at wasanaethau lleol ac arbenigol perthnasol, yn arbennig y rhai a arweinir gan y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf ac ar eu cyfer. Cynhwyswch bob amser o leiaf un llinell gymorth neu ddolen gymorth berthnasol mewn straeon sy'n ymwneud â cham-drin domestig neu drais ar sail rhywedd.

‍ ‍

‍ ‍

7. Ymgynghori a Chydnabyddiaethau

‍ ‍

Datblygwyd gyda mewnbwn gan newyddiadurwyr, arbenigwyr cam-drin domestig a VAWG, eiriolwyr goroeswyr, a sefydliadau cymdeithas sifil.

‍ ‍

‍ ‍

8. Ynghylch y Canllawiau Hyn

‍ ‍

Bwriedir y canllawiau hyn fel cymorth ymarferol, ac nid ydynt yn cymryd lle codau rheoleiddio presennol.

‍ ‍

Croesawn fewnbwn ac adborth — anfonwch e-bost i info@pressjusticeproject.org

‍ ‍

‍ ‍

9. Gyda Diolch i…

‍ ‍

Cynhyrchwyd y canllawiau hyn gan y Press Justice Project mewn ymgynghoriad â chymdeithas sifil, addysgwyr newyddiaduraeth ac ymarferwyr.